Bwriad y pecyn hyfforddi hwn ydy cynnig arweiniad i athrawon ar sut i symud dysgwyr o lefel 3 i lefel 4.
Mae'r pecyn y cynnwys 7 uned addysgu enghreifftiol ynghyd a chlipiau fideo o daith dysgwyr mewn dwy ysgol wrth symud o lefel 3 i lefel 4. Mae’r clipiau yn enghreifftio amryw o’r gweithgareddau y cyfeirir atynt yn yr unedau addysgu ac yn cynnig nifer o syniadau eraill y gall ymarferwyr eu gweithredu ar lawr dosbarth.
Yn ail ran y pecyn ceir yn cynnwys dogfennau a baratowyd gan Dîm y Gymraeg mewn Addysg Gwasanaeth Cyflawniad Addysg De Ddwyrain Cymru er mwyn sicrhau cysondeb asesu a hwyluso’r broses o gymedroli gwaith dysgwyr o fewn y consortiwm.