Cwcis

Mae gwefan Adnoddau Addysgol Digidol CBAC yn defnyddio cwcis. Ffeil fach o lythrennau a rhifau y mae eich porwr yn ei rhoi ar eich cyfrifiadur neu'ch dyfais yw cwci. Mae cwcis yn ein galluogi i wahaniaethu rhyngoch chi a defnyddwyr eraill y wefan, ac mae hyn yn ein helpu i roi profiad da i chi pan fyddwch yn pori drwy ein gwefan, ac yn ein galluogi i wella ein gwefan.

Mathau o gwcis

Dyma restr o'r categorïau o gwcis a gaiff eu defnyddio ar ein gwefan, a pham rydym yn eu defnyddio.

Cwcis sesiwn

Mae cwcis sesiwn yn caniatáu i ddefnyddwyr gael eu hadnabod o fewn gwefan, er enghraifft i bennu diwylliant eich porwr. Dim ond dros dro y caiff cwcis sesiwn eu storio yn ystod sesiwn pori, ac maent yn cael eu dileu o ddyfais y defnyddiwr pan fydd y porwr wedi cau.

Cwcis fflach

Rydym ni'n aml yn defnyddio Chwaraewr Fflach Adobe i ddarparu cynnwys addysgol a fideos ar gyfer ein defnyddwyr. Mae Adobe yn defnyddio eu cwcis eu hunain, nad oes modd eu rheoli drwy osodiadau eich porwr. Mae'r Chwaraewr Fflach yn eu defnyddio at ddibenion megis storio dewisiadau.

Polisi preifatrwydd Chwaraewr Fflach Adobe (neu wybodaeth debyg)

Cwcis trydydd parti

Google Analytics

Rydym ni’n defnyddio cwcis dadansoddi i'n galluogi i adnabod a chyfrif nifer yr ymwelwyr a gweld sut mae’r ymwelwyr hynny'n symud o amgylch y wefan. Mae hyn yn ein helpu i wella'r ffordd y mae'r wefan yn gweithio, er enghraifft drwy wneud yn siŵr bod defnyddwyr yn dod o hyd i’r hyn y mae arnynt ei angen yn hawdd. Nid yw cwcis Google Analytics yn casglu data personol y rheini sy'n ymweld â'r wefan.

Polisi Preifatrwydd Google

Gwefannau allanol

Efallai y byddwn yn plannu fideos, cysylltau neu ddelweddau mewn adnoddau ar ein gwefan. Neu efallai y byddwn yn argymell gwefannau arbennig ar gyfer pynciau penodol. O ganlyniad, pan fyddwch yn ymweld â thudalen sydd â chynnwys wedi’i blannu o wefan allanol, neu sydd wedi'i gysylltu â gwefan allanol, mae’n bosibl y cewch eich cyflwyno i gwcis o'r gwefannau hyn.

Sut mae modd i mi wrthod a dileu cwcis?

Ni fyddwn yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth amdanoch sy'n dangos pwy ydych chi. Fodd bynnag, pe baech yn dymuno gwneud hynny, gallwch ddewis gwrthod neu rwystro’r cwcis sydd wedi'u gosod gan wefan Adnoddau Addysgol Digidol CBAC, neu gan wefannau unrhyw gyflenwyr trydydd parti, drwy newid gosodiadau eich porwr. Cofiwch fod y rhan fwyaf o borwyr yn derbyn cwcis yn awtomatig, felly os nad ydych yn dymuno i gwcis gael eu defnyddio, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd ati i ddileu neu rwystro'r cwcis hynny’n benodol.

Os byddwch yn gwrthod rhoi eich caniatâd i gwcis gael eu defnyddio, byddwch yn dal i allu ymweld â’n gwefan, ond mae'n bosibl na fydd rhai o'r gweithrediadau'n gweithio'n iawn.