Dyma adnodd dysgu cyfunol gyda chynnwys hunan-astudio rhyngweithiol sy'n ymdrin ag Uned 1ch: Prydain ar ddechrau'r 1950au.
Pwrpas yr adnodd yw cyfuno dysgu wyneb yn wyneb traddodiadol gyda phecyn dysgu ar-lein sy'n caniatáu’r myfyrwyr i ddysgu ar eu cyflymder eu hunain.
Gellir ei ddefnyddio fel adnodd adolygu ar gyfer y myfyrwyr, er mwyn dal i fyny neu ar gyfer gweithgareddau dysgu lle mae'r myfyrwyr yn darllen deunydd tu allan i'r dosbarth.
Ni ddylid dysgu'r cynnwys mewn ystafell ddosbarth, mae angen ei gyfuno gyda dulliau dysgu confensiynol bob amser.