Cyfres o adnoddau rhyngweithiol sy’n annog disgyblion i ymarfer eu sgiliau darllen Ffrangeg. Mae’r gweithgareddau yn rhoi sylw i eirfa ac adeiledd brawddegau yn gyntaf cyn ystyried testun mwy estynedig. Gweithgareddau ysgogol yw’r rhain gyda’r disgyblion yn ennill medalau wrth weithio i guro’r cloc. Y nod yw ennill y marciau uchaf yn yr amser byrraf!