Mae'r uned hon yn cwmpasu elfennau'r fanyleb sy'n ymwneud â'r nodweddion a'r priodweddau gweithio sy'n berthnasol i ffasiwn a thecstilau 2.3.3(b). Hefyd mae'n ymwneud ag agweddau ar ddosbarthu'r prif grwpiau ffibr 2.3.3(a). Ei bwriad yw rhoi cefndir i'r testunau ond nid yw'n cynnwys yr holl ddeunydd posibl sy'n ofynnol at ddibenion arholiad.
Hefyd bydd angen i'r athro a'r myfyrwyr wneud eu gweithgareddau ymchwil/darllen/ymarferol eu hunain er mwyn cwmpasu cynnwys y fanyleb yn llwyr o ran defnyddiau a chydrannau.