Mae’r uned yma'n ymdrin â'r rhannau o'r fanyleb sy'n ymwneud â dosbarthiad y prif grwpiau ffibr sy'n berthnasol i ffasiwn a thecstilau (2.3.3(a)). Pwrpas yr uned yw cynnig cefndir i'r maes ond nid yw'n cynnwys yr holl ddeunydd sydd o bosib ei angen i bwrpas arholiad. Bydd angen i'r athro a'r dysgwyr ymgymryd â gwaith ymchwil, darllen pellach a gweithgareddau ymarferol er mwyn sicrhau eu bod wedi ymdrin yn drwyadl â gofynion y fanyleb o ran dosbarthu ffibrau. Ceir enghreifftiau o dasgau ar gyfer ymchwil pellach, trafodaeth ac astudiaeth yn yr uned.