Adnodd cynhwysfawr sy'n cefnogi addysgu Astudio'r Cyfryngau UG, Uned 1 Adran C.
Mae'r adnodd yn ymdrin â'r holl gysyniadau allweddol a astudir gan ddilyn strwythur perthnasol ar gyfer - Iaith y Cyfryngau, Diwydiannau'r Cyfryngau a Chynulleidfaoedd. Ceir amrywiaeth eang o dasgau a gweithgareddau diddorol ar gyfer athrawon i'w defnyddio yn y dosbarth ac ar gyfer y dysgwyr i'w defnyddio yn unigol. Mae'r Nodiadau Athro yn rhoi cyflwyniad i'r pwnc a'r adnodd ac yn cynnig arweiniad o ran y tasgau a'r gweithgareddau.
Er bod yr holl adnoddau’n gywir ar adeg eu cyhoeddi, dylai athrawon fod yn ymwybodol bod pethau’n symud yn gyflym yn niwydiant y cyfryngau ac felly dylent wirio bod y wybodaeth yn dal yn gyfredol ac yn gywir.