Cyfres o adnoddau rhyngweithiol i gefnogi addysgu am Gemau Fideo ar gyfer Astudio'r Cyfryngau U2. Mae'r adnoddau yn dilyn pedwar rhan rhyngberthnasol y fframwaith cysyniadol sef: Iaith y Cyfryngau, Cynrychioliad, Diwydiannau'r cyfryngau, a Chynulleidfaoedd gan gynnwys enghreifftiau o'r cynhyrchion a osodwyd. Ceir cyfres o nodiadau athro sy'n esbonio sut i ddefnyddio'r adnodd yn y dosbarth ac mae'r adnodd hefyd yn cynnwys tasgau ymestynnol i'w cwblhau'n annibynnol gan y dysgwyr. Mae'r adnoddau yn cynnig llu o gyfleoedd i ddysgwyr ddadansoddi'r diwydiant gemau, i archwilio materion o fewn y diwydiant a chynulleidfaoedd a chynnig persbectif beirniadol.
Gellir defnyddio deunyddiau trydydd parti at ddibenion beirniadu ac adolygu drwy'r rheol delio teg, ond os oes unrhyw beth wedi’i hepgor, neu unrhyw beth yn anghywir, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu gwneud y cywiriadau angenrheidiol adnoddau@cbac.co.uk.
Er bod yr holl adnoddau’n gywir ar adeg eu cyhoeddi, dylai athrawon fod yn ymwybodol bod pethau’n symud yn gyflym yn niwydiant y cyfryngau ac felly dylent wirio bod y wybodaeth yn dal yn gyfredol ac yn gywir.