Adnodd cynhwysfawr sy'n cefnogi addysgu un o'r testunau teledu dewisol ar gyfer y topig yma. Mae'r adnodd yn ymdrin â'r holl gysyniadau allweddol y dylid eu hastudio megis iaith y cyfryngau, cynrychioliad, diwydiannau'r cyfryngau a chynulleidfaoedd. Mae'r uned yn cynnwys amrediad eang o dasgau a gweithgareddau ar gyfer defnydd yr athro yn y dosbarth neu i'w cwblhau gan y dysgwyr yn annibynnol. Gyda'r gwaith daw Nodiadau Athro sy'n cyflwyno'r topig a’r adnodd yn ogystal â chynnig arweiniad gyda'r gweithgareddau.
Mae 'delio'n deg' gydag adnoddau trydydd person yn cael ei ddefnyddio ar gyfer beirniadaeth ac adolygiad, fodd bynnag os oes unrhyw beth wedi ei hepgor neu sydd heb fod yn fanwl gywir yna cysylltwch gyda ni er mwyn i ni wneud y cywiriadau angenrheidiol.
Er bod yr holl adnoddau’n gywir ar adeg eu cyhoeddi, dylai athrawon fod yn ymwybodol bod pethau’n symud yn gyflym yn niwydiant y cyfryngau ac felly dylent wirio bod y wybodaeth yn dal yn gyfredol ac yn gywir.