Cyflwyniad i gefndir sbectrosgopeg NMR (Nuclear Magnetic Resonance) a dehongliad sbectra NMR proton. Mae'r adnodd yn cynnwys nodiadau argraffadwy ac animeiddiadau sy'n esbonio pam fod niwclysau arbennig yn cynhyrchu sbectra NMR, pam fod atomau hydrogen mewn amgylcheddau gwahanol yn profi symudiadau cemegol gwahanol ac arwyddocâd arwynebeddau brig. Ceir esboniad hefyd am hollti brig mewn NMR cydraniad uchel.