Pwrpas y cylchgrawn digidol newydd hwn yw cefnogi athrawon sy'n cyflwyno ein manylebau newydd ar gyfer Astudiaethau Crefyddol TGAU, UG ac Uwch.
Bydd pob argraffiad yn cynnwys erthyglau perthnasol ynghyd â syniadau ynglŷn ag addysgu a pharatoi at arholiadau. Bydd y cylchgrawn hefyd yn cynnwys cysylltau at ein hadnoddau digidol rhad ac am ddim sy'n ategu cydrannau penodol yn ein manylebau.