Mae’r e-gylchgrawn yma wedi ei ddarparu ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 4 sy’n astudio TGAU Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Cyhoeddir y cylchgrawn ar adegau penodol yn ystod y flwyddyn ysgol ac mae pob rhifyn yn cynnwys sbardunau darllen cyfredol, ffeiliau sain a nifer o weithgareddau rhyngweithiol ar gyfer pob iaith. Mae’r deunyddiau yn cynorthwyo gyda sgiliau darllen cyffredinol y dysgwyr ac mae modd eu defnyddio i ddatblygu sgiliau siarad ac ysgrifennu.