Hygyrchedd

Mae gwefan Adnoddau Addysgol Digidol CBAC yn cydymffurfio â chydsyniad Lefel "A", fel y nodir yng Nghanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 1.0 Consortiwm y We Fyd-Eang (W3C). Mae'r wefan yn bodloni holl bwyntiau gwirio hygyrchedd Blaenoriaeth 1.

Ar hyn o bryd, rydym ni’n edrych ar bwyntiau gwirio hygyrchedd Blaenoriaeth 2 yng nghanllawiau Menter Hygyrchedd y We (WAI), er mwyn i'r wefan gydymffurfio â chydsyniad Lefel "A-Dwbl)" ar gyfer hygyrchedd.

Mae’n bosibl nad yw rhai o’n hadnoddau’n cydymffurfio â chydsyniad Lefel "A" ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio er mwyn sicrhau bod ein holl dudalennau gwe a’n holl adnoddau’n cydymffurfio â chanllawiau hygyrchedd W3C.

Mae’r wefan wedi’i dylunio i gynnwys y nodweddion hygyrchedd canlynol:

  • Mae tudalennau wedi’u dylunio er mwyn gallu eu gweld ar gydraniad sgrin o 1024 x 768 picsel.
  • Mae strwythur y dudalen yn cael ei gyfleu gan ddefnyddio elfennau pennyn.
  • Mae modd gwneud maint y testun yn fwy neu’n llai drwy ddefnyddio’r dewis “gwedd” ar eich porwr
  • Mae testun priodol i gyd-fynd â phob delwedd.

Os hoffech gael gwybod mwy, neu os ydych chi’n cael problemau wrth ddefnyddio gwefan Adnoddau Addysgol Digidol CBAC, gallwch anfon neges e-bost at adnoddau@cbac.co.uk neu ffonio 029 2026 5177.