Cyfres o adnoddau i gefnogi addysgu 'Datblygiadau ym myd chwaraeon, hamdden a thwristiaeth yng Nghymru a Lloegr, 1900 hyd heddiw', sy’n rhan o fanyleb B CBAC. Mae’r adnodd yn cynnwys naw uned sy’n rhoi sylw i brif nodweddion yn newidiadau a ddigwyddodd ym mhob agwedd gydag ymarfer byr. Mae cyfle i’r myfyrwyr ddefnyddio’r adnoddau i drafod a dod i gasgliadau am y materion pwysicaf. Gellir defnyddio’r adnoddau i gychwyn gwersi, neu ar gyfer addysgu'r dosbarth cyfan. Gellid eu defnyddio hefyd i ymestyn gwaith y dosbarth ac ar gyfer adolygu.
Diolch i Culturenet Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol am eu caniatâd i ddefnyddio nifer o luniau yn yr adnoddau yma.