Mae tîm Adnoddau Addysgol CBAC yn darparu adnoddau papur a digidol o ansawdd uchel. Maen nhw’n gweithio’n agos â thîm Datblygiad Proffesiynol Parhaus CBAC er mwyn darparu hyfforddiant effeithiol i ysgolion ac athrawon.
Caiff adnoddau eu datblygu drwy bartneriaethau ag athrawon, ac, yng Nghymru, hefyd â’r Adran Addysg a Sgiliau ac awdurdodau lleol. Cynhyrchir rhai deunyddiau’n benodol i gyd-fynd â manylebau CBAC, ac mae eraill yn cefnogi defnydd y Gymraeg mewn addysg.
Yn rhan o’r tîm mae addysgwyr, golygyddion, cyfieithwyr a datblygwyr cynnwys, a gyda’n gilydd mae gennym brofiad helaeth o bob agwedd ar ddatblygu a chefnogi adnoddau addysgol.