Telerau ac Amodau

WJEC/CBAC yw enw masnachu WJEC CBAC Limited, cwmni cyfyngedig drwy warant a gaiff ei reoli gan yr awdurdodau unedol yng Nghymru. Mae’r Swyddfa Gofrestredig yn 245 Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd CF5 2YX. Mae’r cwmni wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr fel rhif 3150875. Cewch ddefnyddio’r wefan hon yn amodol ar y Telerau a’r Amodau canlynol:

  1. Drwy ddefnyddio’r wefan, rydych chi’n derbyn y Telerau a’r Amodau hyn o ddyddiad eich ymweliad cyntaf â'r wefan.
  2. Mae CBAC yn cadw’r hawl i newid y Telerau a’r Amodau hyn unrhyw bryd drwy nodi’r newidiadau ar-lein. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon ar ôl i newidiadau gael eu nodi, rydych chi’n derbyn y cytundeb diwygiedig hwn.
  3. Nid yw CBAC yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am gynnwys gwefannau allanol.
  4. Mae CBAC yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a gaiff ei chyhoeddi ar y wefan hon yn gywir. Fodd bynnag, nid yw CBAC yn atebol o gwbl am y cywirdeb na’r cynnwys. Cyfrifoldeb yr ymwelydd unigol yw penderfynu dibynnu ar y wybodaeth hon ai peidio.
  5. Mae CBAC yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ymhob cam o’r gwaith cynhyrchu. Mae bob amser yn synhwyrol i ddefnyddwyr roi rhaglen gwrthfirysau ar waith ar unrhyw ddeunydd maent yn ei lwytho i lawr o’r Rhyngrwyd. Er ei bod yn annhebygol iawn, ni all CBAC dderbyn unrhyw gyfrifoldeb os bydd data ar eich system gyfrifiadurol yn cael eu colli neu eu difrodi, neu os bydd rhywbeth yn tarfu ar y data, wrth i chi ddefnyddio deunydd o wefan CBAC.
  6. Hawlfraint © CBAC sydd gan yr holl ddeunydd ar y wefan hon, oni bai y nodir fel arall. Cedwir pob hawl. Nid oes modd i chi ail-greu unrhyw ran o’r wefan hon ar unrhyw ffurf, neu mewn unrhyw ffordd, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan CBAC.
  7. Bydd unrhyw ddata personol a gaiff eu casglu drwy’r wefan hon yn cael eu trin yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan, rydych yn dangos eich bod yn fodlon derbyn cwcis Adnoddau Addysgol Digidol CBAC.
  8. Caiff y telerau a’r amodau hyn eu rheoli a’u dehongli’n unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfodau’n atebol i awdurdodaeth Llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.