Cyfres o animeiddiadau sy'n esbonio adweithiau ecsothermig ac endothermig a sut i gyfrifo newidiadau egni sy'n digwydd yn ystod adweithiau cemegol. Mae newidiadau tymheredd sy'n gysylltiedig ag adweithiau ecsothermig ac endothermig yn cael eu dangos yng nghyd-destun adweithiau cyfarwydd. Mae'r newidiadau egni yn cael eu hesbonio yn nhermau egni cymharol adweithyddion a chynhyrchion, gan ddefnyddio diagramau lefel egni. Mae enghreifftiau sydd wedi'u cyfrifo yn dangos sut i gyfrifo newidiadau egni cyffredinol o gyfanswm yr egni sydd ei angen i dorri'r holl fondiau yn yr adweithyddion a'r egni sy'n cael ei ryddhau pan gaiff bondiau eu ffurfio yn y cynhyrchion.