Mae'r adnoddau yma yn cynnig arweiniad cysyniadol ar gyfer y gwahanol opsiynau yn Uned 3 Hanes Safon Uwch (U2). Mae pob adnodd yn dangos sut mae cysyniadau penodol yn tanategu'r cyfnod, pa gyswllt sydd rhwng y cysyniadau a beth yw eu harwyddocâd. Nid bwriad yr adnoddau yw canolbwyntio ar fanylion y digwyddiadau ond i gynnig arweiniad pwrpasol o ran y cysyniadau hanesyddol.