Adnodd i gefnogi Uned 5 'Rhyddiaith yr Oesoedd Canol' manyleb Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf CBAC yw hwn. Trwy law yr Athro Sioned Davies, awdur y gwaith ac arbenigwraig gydnabyddedig yn y maes, caiff y dysgwyr eu tywys drwy ryfeddodau chwedl Branwen ferch Llŷr. Fel gydag adnodd yr Hengerdd a'r Cywyddau, mae modd clicio ar eiriau a brawddegau i ddatgelu eu hystyron, a hoelir sylw ar grefft y dweud, y themâu a'r cymeriadau. Mae yma hefyd oriel o luniau perthnasol ac agweddau cyfoes ar y gwaith i gefnogi'r dysgu. Yn unol â'r fanyleb, seiliwyd y gwaith testunol ar y darn gosod o'r gyfrol 'Gwerthfawrogi'r Chwedlau' gan Rhiannon Ifans.
Noddwyd gan Lywodraeth Cymru.