Datblygwyd yr adnodd yma yn dilyn trafodaethau mewn cyfarfodydd DPP ynglŷn â sut i addysgu dealltwriaeth o ddehongliadau hanesyddol gwahanol. Mae'r adnodd yn awgrymu sut i ymdrin â'r drafodaeth hanesyddol ehangach gan hefyd awgrymu rhai enghreifftiau o'r drafodaeth ehangach sy'n berthnasol i'r cynnwys a nodir yn y fanyleb.