Mae'r wefan yn cynnig trosolwg o'r fanyleb UG/Uwch a hefyd yn cynnig hyd at 6 astudiaeth achos o ddiwydiannau lleol gan gynnwys canolfannau garddio, y diwydiant chwaraeon (canolfannau hamdden), gofal anifeiliaid, bragdai, fferyllfeydd, ysbytai, acwariwm, poptái, archfarchnadoedd, adrannau cyngor lleol megis iechyd cymdeithasol. Mae'r rhain yn amlygu'r amrywiaeth o gylchoedd gweithredu sydd yn lleol ac yn ddefnyddiol.
Bydd yr astudiaethau achos yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr yn y rhannau hynny o’r cwrs sy'n cynnwys asesiadau mewnol. Datblygwyd y wefan ar gyfer myfyrwyr ôl 16 gan gynnig amlinelliad o'r math a chwmpas y cynnwys a fyddai'n addas ar gyfer asesiad UG/Uwch.