Pecyn cyfoes a chynhwysfawr o weithgareddau darllen sy'n cefnogi llyfrau'r gyfres hon. Cyhoeddwyd y gyfres ar y cyd rhwng Gomer a CBAC a diolchir am fedru cynnwys testun o'r cyfrolau yn yr ymarferion hyn.
Mae gweithgareddau’r pecyn yn cwmpasu agweddau ar ddarllen dan arweiniad, rhesymu a gofynion y Profion Darllen Cenedlaethol.
Lluniwyd y gweithgareddau gan aelodau o weithgor y cydlynwyr sirol, Tîm Cefnogi'r Gymraeg mewn addysg:
- Bethan Barlow
- Siwan Dafydd
- Rhiannon Davies
- Matthew Dicken
- Nia MacCarthy
- Mari Owen
- Elfair Roberts
- Sian Vaughan