Cyfres 1
Pecyn o weithgareddau amrywiol yn seiliedig ar y gyfres gyntaf o gardiau llythrennedd thematig a awdurwyd gan Stella Gruffydd. Bwriad y tasgau yw meithrin sgiliau llafaredd, darllen ac ysgrifennu dysgwyr a cheir elfen gref o resymu mewn sawl tasg.
Lluniwyd y gweithgareddau gan gynrychiolwyr o Sir Conwy, Sir y Fflint ac Adran y Gymraeg mewn Addysg Consortiwm EAS.
Cyfres 2
Deunyddiau cynllunio sy'n cefnogi ail gyfres Stella Gruffydd o gardiau thematig er mwyn meithrin sgiliau llythrennedd dysgwyr. Ar gyfer pob un o'r tair thema, cynhwysir map o'r cyfleoedd mae'r pecyn yn eu cynnig i feithrin sgiliau llythrennedd trwy'r pynciau, cynllun gwaith tymor canolig ar gyfer un pwnc, enghraifft o gynllun gwaith wythnos er mwyn cwblhau tasg benodol a deunyddiau i gefnogi'r dysgwyr wrth ymgymryd â'r dasg.