Cyfres o weithgareddau difyr sy'n gofyn i ddysgwyr ddarllen testun a dehongli'r hyn a ddarllenir trwy lun yw Disgriblio Ail Iaith. Mae'r pecyn yn cynnig cyfle i adolygu nifer o'r prif arddodiaid cyn i'r dysgwyr ymgymryd â'r tasgau.
Mae Dweud a Gwneud yn cynnwys set o gyfarwyddiadau i gyd-fynd â lluniau ar themâu penodol. Bwriedir i'r adnodd gael ei ddefnyddio gyda pharau o ddysgwyr ac mae'n hyrwyddo sgiliau gwrando, darllen a deall y dysgwyr.