Cynlluniwyd yr adnodd hwn er mwyn annog cynorthwywyr dosbarth i ymestyn eu defnydd o'r Gymraeg wrth gyfathrebu'n feunyddiol â'r dysgwyr dan eu gofal. Mae'r ffaniau wedi eu trefnu ar gyfer amseroedd penodol o'r diwrnod ysgol neu ar gyfer gweithgareddau penodol ac yn cyflwyno nifer o'r cystrawennau mwyaf defnyddiol ym mhob cyd-destun. Paratowyd yr adnodd gan Julie Owen, Cyngor Sir Gâr.