Mae’r e-lyfr hwn wedi’i ysgrifennu’n benodol ar gyfer CBAC Dyfarniad Galwedigaethol Lefel 1/2 mewn TGCh. Bwriad yr e-lyfr hwn yw rhoi enghreifftiau i chi o’r sgiliau gofynnol i gwblhau’r ail uned yn y cymhwyser a sut gallwch chi ddangos tystiolaeth o’r sgiliau hyn yn eich gwaith. Mae’r enghreifftiau yn yr e-lyfr hwn yn benodol i feddalwedd ac maen nhw yno er mwyn rhoi enghraifft. Mae’n bosibl defnyddio meddalwedd arall i ddangos tystiolaeth o’r sgiliau hyn. Mae Uned 2 yn edrych ar ddefnyddio cronfeydd data, taenlenni, dogfennau wedi’u hawtomeiddio a graffigau a sut mae’n bosibl defnyddio’r mathau meddalwedd hyn i ddatrys tasg.