Mae sylfaen Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn seiliedig ar hanfodion datblygu sgiliau dysgwyr ôl-16 yng Nghymru ac yn cefnogi'u datblygiad i gystadlu mewn marchnad gyflogaeth ryngwladol. Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn ceisio rhoi gwybodaeth gyfoes berthnasol i ddysgwyr ar y cyd â chyfleoedd i ddysgu drwy brofiad mewn amrywiol gyd-destunau. Dim ond wrth ddysgu trwy brofiad y bydd pobl ifanc yn gallu datblygu eu sgiliau trwy broses o gynllunio, gwneud, a myfyrio.
Rhagwelir y bydd yr adnodd yma sy’n cyflwyno Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn cael
ei ddefnyddio gan athrawon, dysgwyr, a rhanddeiliaid eraill er mwyn cefnogi eu dealltwriaeth o'r cymhwyster.