Adnoddau fideo ar gyfer TGAU Technoleg Ddigidol. Bwriad y fideos yma yw i ddangos y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i gwblhau unedau NEA (Asesiadau Di-arholiad) ar gyfer y cymhwyster TGAU Technoleg Ddigidol. Bwriedir iddynt gael eu defnyddio gan athrawon ond gallant fod yn ddefnyddiol i ymgeiswyr hefyd. Gellir eu defnyddio naill ai fel tiwtorial neu gyfeirnod. Nid yw'r fideos hyn yn gynhwysfawr a dylid annog ymgeiswyr i ddefnyddio technegau eraill nad ydynt wedi'u cynnwys yn y fideos hyn.