Mae'r adnodd yma yn addas ar gyfer Gradd Unigol a Dwyradd:
Gradd unigol Uned 1 - 1.1.2
Gradd dwyradd Uned 1 - 1.2.2
Dyma adnodd dysgu cyfunol gyda chynnwys hunan-astudio rhyngweithiol sy'n ymdrin â Uned 1: Bywyd modern ac egni - Cynhyrchu trydan.
Pwrpas yr adnodd yw cyfuno dysgu wyneb yn wyneb traddodiadol gyda phecyn dysgu ar-lein sy'n caniatáu’r myfyrwyr i ddysgu ar eu cyflymder eu hunain.
Gellir ei ddefnyddio fel adnodd adolygu ar gyfer y myfyrwyr, er mwyn dal i fyny neu ar gyfer gweithgareddau i ddysgu lle mae'r myfyrwyr yn darllen deunydd tu allan i'r dosbarth.
Ni ddylid dysgu'r cynnwys mewn ystafell ddosbarth, mae angen ei gyfuno gyda dulliau dysgu confensiynol bob amser.