Arweiniad i athrawon a myfyrwyr wrth iddynt baratoi i lunio sgript yn ôl gofynion yr Asesiad Mewnol Ysgrifenedig ar gyfer TAG Cymraeg Iaith Gyntaf CBAC. Pwrpas y pecyn yw arwain athrawon a myfyrwyr wrth iddynt baratoi i lunio’u sgript bersonol. Nid yw’r ymarferion yn ddibynnol ar ei gilydd ac nid oes disgwyl y bydd angen ymgymryd â phob un. Gellir defnyddio’r pecyn gyda’r dosbarth cyfan neu gall y myfyrwyr ei ddefnyddio ar eu liwt eu hunain.