Dyma gasgliad o enghreifftiau o drefnyddion gwybodaeth i gefnogi'r dysgu ar gyfer TGAU Astudio'r Cyfryngau.
Gall y rhain gael eu defnyddio ar gyfer adolygu neu fel man cychwyn er mwyn creu eich trefnyddion gwybodaeth eich hunain.
Er bod yr holl adnoddau’n gywir ar adeg eu cyhoeddi, dylai athrawon fod yn ymwybodol bod pethau’n symud yn gyflym yn niwydiant y cyfryngau ac felly dylent wirio bod y wybodaeth yn dal yn gyfredol ac yn gywir.