Uned sy’n cynnig cymorth i adnabod geiriau tebyg. Yn yr uned rhennir y grwpiau o eiriau tebyg i bum set er mwyn hwyluso’r addysgu a’r dysgu. Ceir cyfle yma i’r athrawon ddatblygu sgiliau llafaredd, darllen ac ysgrifennu’r disgyblion trwy ddilyn y gweithgareddau ynghyd â datblygu’r sgiliau allweddol a sgiliau meddwl a datrys problemau. Ceir cyflwyniadau dosbarth, ymarferion perthnasol ar gyfer y disgyblion a thasgau i’w cwblhau er mwyn sicrhau dealltwriaeth. Mae’r uned hon yn cyd-fynd â manyleb Uwch Gyfrannol newydd Cymraeg Ail Iaith CBAC.