Noddwyd gan Lywodraeth Cymru
Pecyn sy’n datblygu gallu myfyrwyr i groesgyfeirio rhwng gwahanol elfennau’r pwnc mewn atebion synoptig. Mae’r gweithgareddau’n arwain y myfyrwyr gam wrth gam drwy’r broses o arddangos a chymhwyso dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng gwahanol agweddau ar y Gymraeg. Mae’r cynnwys yn seiliedig ar y themâu sy’n codi yn y ddrama Siwan yn ogystal â themâu barddoniaeth Safon Uwch sef cariad, cyfrifoldeb a Chymru. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys cyfleoedd i ymarfer ymateb ar lafar ac yn ysgrifenedig ac yn cynnwys cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ehangach megis gwella eu dysgu eu hunain a gweithio ag eraill.