Datblygwyd yr adnodd hwn fel deunydd dysgu ac addysgu ar gyfer yr Her Dinasyddiaeth Fyd-eang Genedlaethol/Sylfaenol. Ffocws y 9 sesiwn yw ymarfer a datblygu sgiliau Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau, a’r sgiliau Creadigedd ac Arloesi. Gellir ei ddefnyddio fel adnodd ar gyfer dysgu cyfunol, neu gall dysgwr ei ddilyn yn ei gyfanrwydd o'i gartref.