Bydd y pecyn Adnodd Dysgu o Adref yma yn galluogi dysgwyr i ymarfer a datblygu’r saith sgil hanfodol sy’n ganolbwynt i Dystysgrif Her Sgiliau Cenedlaethol/Sylfaen. Bydd y saith gweithgaredd sy’n gysylltiedig â rhedeg Parc thema ‘Funland’ yn rhoi’r cyfle i’r dysgwyr weithio ar y sgiliau canlynol:
· Llythrennedd
· Rhifedd
·Llythrennedd Digidol
· Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau
· Creadigedd ac Arloesi
· Cynllunio a Threfnu
· Effeithiolrwydd Personol