Adnoddau sy’n ymwneud â genres theatr a fydd yn gymorth i ddatblygu gwaith ar gyfer Uned 1 manyleb Drama TGAU CBAC. Yma rhoddir sylw i’r Theatr i Bobl Ifanc (Theatr Mewn Addysg) ac mae’r uned yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau a chlipiau o sioeau yn ogystal â chlipiau o rai sy’n gweithio yn y maes yn trafod y cyfrwng.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru.