Mi fydd y fideos byr hyn yn gymorth i fyfyrwyr i ddeall y defnydd o Fathemateg mewn Daearyddiaeth. Maent yn disgrifio'r broses fathemategol gan ddefnyddio data daearyddol. Gall yr adnoddau hyn cael eu defnyddio fel man cychwyn er mwyn datblygu syniadau am gwestiynau dealltwriaeth (AA1.2 CBAC) a chymhwysiad (AA2 CBAC).