Mae Prifysgol Caerdydd wedi datblygu cyfres o weithgareddau syml er mwyn cefnogi dysgu dulliau ymchwilio. Mae pob argraffiad o'r Dos Dyddiol yn anelu i feithrin dealltwriaeth sylfaenol o sut y mae newyddion am iechyd a bygythiad i iechyd yn codi yn y cyfryngau, a pha arwyddion syml y dylid chwilio amdanynt os ydynt wedi selio ar dystiolaeth cryf. Mae'r cynnwys wedi ei selio ar ymchwil Prifysgol Caerdydd ar or-ddweud mewn newyddion iechyd. Bydd y gweithgareddau o gymorth i'r myfyrwyr trwy ganfod cliwiau mewn enghreifftiau o straeon newyddion go iawn er mwyn datgelu os oes tystiolaeth dda yn cefnogi'r hyn y mae'r newyddion yn honni. Law yn llaw â hyn, maent yn helpu'r myfyrwyr ddeall agweddau allweddol o ddulliau ymchwil : newidynnau, cydberthyniadau, arbrofion, elfennau dryslyd.