Mae'r adnoddau yma'n cynnig trosolwg o egwyddorion technegol Dylunio Cynnyrch ac egwyddorion dylunio a gwneud sy'n rhan o fanyleb Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol Dylunio a Thechnoleg CBAC. Pwrpas yr adnoddau yw cefnogi addysgu a dysgu gan gynnig cyflwyniad i'r cysyniadau pwysicaf o ran theori'r pwnc a dylid eu defnyddio ynghyd ag adnoddau eraill ac addysgu da yn y dosbarth.
Mae'r awduron wedi ceisio defnyddio lluniau sydd yn rhydd o gyfyngiadau hawlfraint ond os oes rhywbeth wedi ei hepgor neu sydd heb fod yn gywir yna cysylltwch gyda ni er mwyn i ni ei gywiro. Mae'r awduron hefyd yn ddiolchgar i'r cwmnïau a'r asiantaethau hynny sydd wedi rhoi caniatâd i ddefnyddio lluniau o'u gwefannau yn y gwaith yma gan gynnwys Dyson, Blackpool Creative, Rob Law CEO Trunki (lluniau a thestun o Trunki.co.uk), PROTO 3000 a Matthew Cooke.