Cyfres o adnoddau atyniadol sy'n cefnogi datblygiad gwybodaeth a dealltwriaeth a dadansoddiad o'r newyddion gyda sylw penodol i newyddion teledu a gwefannau newyddion. Mae'r adnoddau yn cynnwys cyfres o weithgareddau rhyngweithiol a rhai y mae modd eu hargraffu sy'n berthnasol i astudio newyddion yn Uned 1 y fanyleb TGAU. Rhoddir sylw i bob rhan o fframwaith y cyfryngau gydag enghreifftiau cyfoes ac astudiaethau achos. Mae'r adnoddau yma'n gymorth i astudio testunau newyddion gan ystyried yr iaith, cynrychioliadau, sefydliadau'r cyfryngau a chynulleidfaoedd.
Mae 'delio'n deg' gydag adnoddau trydydd person yn cael ei ddefnyddio ar gyfer beirniadaeth ac adolygiad, fodd bynnag os oes unrhyw beth wedi ei hepgor neu sydd heb fod yn fanwl gywir yna cysylltwch gyda ni er mwyn i ni wneud y cywiriadau angenrheidiol.
Er bod yr holl adnoddau’n gywir ar adeg eu cyhoeddi, dylai athrawon fod yn ymwybodol bod pethau’n symud yn gyflym yn niwydiant y cyfryngau ac felly dylent wirio bod y wybodaeth yn dal yn gyfredol ac yn gywir.