Cynlluniwyd y canllaw hwn gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol i gefnogi myfyrwyr trwy bob cam o'u Hymchwiliadau Annibynnol Safon Uwch Daearyddiaeth. Mae'r deunydd yn dilyn y Llwybr i Ymholiad a phob un o'r chwe cham angenrheidiol gan roi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau ymchwilio, casglu data, cyflwyno data, a'u sgiliau ystadegol. Mae hefyd yn darparu cymorth a chyngor gwerthfawr i fyfyrwyr feithrin y gallu i werthuso gwaith yn effeithiol. Diolch i'r Gymdeithas Ddaearyddol am eu cydweithrediad parod wrth baratoi'r cyfieithiad hwn ac mae modd llwytho i lawr fersiwn Cymraeg tebyg o'r gwaith yma (mewn un ffeil) o wefan yr RGS - www.rgs.org