Yn yr adnodd sain yma mae modd i wrandawyr glywed holl rannau'r gan gyda'i gilydd, neu ar wahân. Recordiwyd y perfformiad gydag offerynnau byw ar wahân i'r obo, y cyrn a'r llinynnau. Mae'n bosib distewi pob trac er mwyn gwrando ar yr offerynnau/lleisiau yn unigol neu mewn unrhyw gyfuniad. Gellir ei ddefnyddio fel adnodd perfformio gyda'r dysgwyr yn chwarae rhannau sydd wedi eu tawelu ond gyda gweddill y band yno i'w cynorthwyo. Dengys yr adnodd hefyd sut y defnyddir offerynnau i gyfansoddi caneuon poblogaidd.