Yn yr adnodd sain yma mae modd i wrandawyr glywed holl rannau'r gan gyda'i gilydd, neu ar wahân. Recordiwyd y perfformiad yn defnyddio seiniau wedi eu samplo ac mae'n bosib distewi pob trac er mwyn gwrando ar yr offerynnau yn unigol neu mewn unrhyw gyfuniad. Gellir ei ddefnyddio fel adnodd perfformio gyda'r dysgwyr yn chwarae rhannau sydd wedi eu tawelu ond gyda gweddill y band yno i'w cynorthwyo. O ran cyfansoddi mae'r adnodd yn caniatáu astudiaeth o'r dyfeisiau cyfansoddol a ddefnyddir.