Adnoddau i gyd-fynd ag wyth llyfr ffeithiol yn rhan o’r gyfres ‘Darllen Mewn Dim’ gan Angharad Tomos. Yn yr wyth llyfr ‘Am dro’, a gyhoeddwyd gan Y Lolfa gyda chefnogaeth Cynllun Adnoddau Addysgu a Dysgu CBAC, rhoddir sylw i goed, blodau, adar, creaduriaid bach, dydd a nos, y tywydd, ddoe a heddiw, a'r traeth.
Mae pob uned yn cynnwys gweithgaredd yn sail i drafodaeth dan arweiniad athro/athrawes, ynghyd â gweithgareddau i’w defnyddio’n annibynnol gan ddisgyblion, a chaneuon pwnc benodol.
Noddwyd pedair uned gyntaf y gyfres ddigidol, 'Coed', 'Blodau', 'Adar', a 'Creaduriaid Bach' gan CBAC, a phedair uned ail ran y gyfres ddigidol, 'Dydd a Nos', 'Y Tywydd', 'Ddoe a Heddiw' ac 'Y Traeth' gan Y Lolfa.