Gweithgareddau darllen ac ysgrifennu rhyngweithiol y mae modd eu defnyddio i gefnogi addysgu a dysgu dosbarth cyfan neu unigolion. Mae'r adnoddau yn canolbwyntio ar Uned 5: Ymateb Beirniadol a Dadansoddol Ysgrifenedig ar gyfer y fanyleb newydd. Nid yw'n fwriad i gynnwys yr adnodd gynnig yr holl ddeunydd sydd ei angen ar gyfer y gwaith llenyddol, ond cynlluniwyd yr uned fel sbardun i addysgu. Wrth reswm bydd athrawon eisiau ychwanegu eu deunyddiau eu hunain wrth iddynt astudio pob gwaith gyda'r dysgwyr.
Defnyddir amodau 'Delio'n deg' i bwrpas adolygu a beirniadu cynnwys ond os oes rhywbeth yn anghywir neu wedi ei hepgor yna cysylltwch gyda ni er mwyn i ni wneud y cywiriadau angenrheidiol - adnoddau@cbac.co.uk.