Bob blwyddyn, bydd angen i ddysgwyr gynnal dau ymchwiliad personol wrth baratoi ar gyfer CBAC Uned 4. Gall myfyrwyr ddefnyddio'r ddogfen enghreifftiol hon i ystyried y gwaith cynllunio y mae angen ei wneud cyn iddynt ddechrau ar y gwaith ymchwil. Bydd y ddogfen hon yn helpu myfyrwyr i sicrhau eu bod wedi ymdrin â'r meysydd allweddol a nodir yn y fanyleb ar gyfer y gwaith hwn. Rydym wedi llwytho fersiwn Word o'r ddogfen i fyny, er mwyn i athrawon allu ei haddasu i deitlau priodol yr ymchwiliadau sy'n cael eu darparu gan y bwrdd arholi ar gyfer pob asesiad blynyddol.