Pwrpas yr adnoddau yma yw datblygu sgiliau ysgrifennu traethodau myfyrwyr Seicoleg Safon Uwch gan gynnig adnodd addysgu a dysgu y gellir ei ddefnyddio ar-lein neu yn annibynnol yn y dosbarth. Mae'r adnoddau yn ddatgymalu'r gwahanol elfennau mewn traethawd Seicoleg da gan yna ystyried sut y cyflawnwyd y gwahanol elfennau.
Daw'r enghreifftiau oll o waith yn ymwneud â Dadleuon Cyfoes (CBAC Uned 2, UG, Adran A) a ysgrifennwyd gan fyfyrwyr unai mewn arholiad neu ar gyfer gwaith cartref. Fodd bynnag mae modd ymestyn y sgiliau ar gyfer traethodau Safon Uwch ac mewn pynciau eraill.