Cyfres o adnoddau cynhwysfawr sy'n cefnogi datblygiad gwybodaeth, dealltwriaeth a dadansoddiad o'r newyddion mewn modd diddorol. Mae'r adnodd yn cynnwys cyfres o weithgareddau rhyngweithiol a rhai y gellir eu hargraffu sy'n ymwneud ag astudio papurau newydd yng Uned 1 o'r fanyleb newydd TGAU. Rhoddir sylw i bob rhan o fframwaith damcaniaethol y cyfryngau gan gyfeirio at enghreifftiau ac astudiaethau achos cyfredol gyda pheth cyd-destun hanesyddol. Mae'r adnoddau yma'n hwyluso astudio papurau newydd gan ystyried iaith y cyfrwng, cynrychioliadau, sefydliadau'r cyfryngau a chynulleidfaoedd.
Er bod yr holl adnoddau’n gywir ar adeg eu cyhoeddi, dylai athrawon fod yn ymwybodol bod pethau’n symud yn gyflym yn niwydiant y cyfryngau ac felly dylent wirio bod y wybodaeth yn dal yn gyfredol ac yn gywir.