Cyfres o weithgareddau gwrando, darllen a chyfieithu rhyngweithiol y gellir eu defnyddio i gefnogi addysgu a dysgu gyda dosbarth cyfan neu'n unigol. Rhoddi'r sylw yma i Thema 3 o'r fanyleb newydd. Nid bwriad yr adnodd yma yw darparu holl gynnwys y thema ond i weithredu fel sbardun ar gyfer addysgu. Yn naturiol bydd athrawon yn dymuno ychwanegu eu hadnoddau thematig eu hunain at y cynnwys yma wrth drafod pob thema gyda'r dysgwyr.
Sylwer na fydd yr is-thema Cyfoethogi diwylliannol a dathlu gwahaniaeth sy'n rhan o Thema 3 ar gyfer Sbaeneg Safon Uwch yn rhan o'r asesiad uniongyrchol ar gyfer Uned 4 yn ystod haf 2021.