Datblygwyd gan Atebol a noddwyd gan Lywodraeth Cymru
Bwriedir i’r adnodd gael ei ddefnyddio fel rhan o raglen strwythuredig o addysgu a dysgu, yn cynorthwyo myfyrwyr i gymhwyso gwybodaeth at amrywiaeth o gyrff teithio a thwristiaeth sy’n gweithredu mewn sectorau gwahanol o’r diwydiant.
Mae amrywiaeth o weithgareddau wedi’u cynnwys yn yr adnodd. Mae rhai yn rhyngweithiol, mae eraill yn gofyn bod y myfyrwyr yn gwneud ymchwil ychwanegol ac yn llunio atebion ysgrifenedig.
Mae Llyfrau Gwaith electronig neu ar ffurf copi caled wedi’u darparu ar gyfer pob astudiaeth achos a hefyd, mae templedi PowerPoint wedi’u darparu ar gyfer pob astudiaeth achos pan awgrymir bod myfyrwyr yn paratoi cyflwyniad o wybodaeth.